Crime Prevention Business Partner | Partner Busnes Atal Troseddu
Transport for Wales
The Role
The role will provide expert advice, develop evidence-based interventions, build strategic partnerships with internal and external stakeholders, and use intelligence and performance data to identify emerging threats, reduce risk, and improve the safety and security of customers, colleagues and assets.
Role responsibilities
- Undertake comprehensive crime prevention assessments across TfW and its subsidiaries by conducting assessments using secure by design methodology and producing documentation to influence consistent standards and ensure risks to the business are captured and communicated.
- Proactively review incident data by analysing a variety of data sources including control logs, dashboards and reports to identify emerging trends and risks to the organisation and implement plans to mitigate further incidents.
- Act as a subject matter expert for crime prevention, driving cultural and behavioural change across frontline teams and influencing internal and external stakeholders to embed effective crime prevention measures that reduce crime-related incidents and improve network safety.
- Be responsible for the TfW Regional Travel Safer meetings by coordinating the meeting packs and chairing the meeting to ensure issues and incidents affecting local areas have sufficient plans in place to manage them.
Who we're looking for
- Degree level qualification or equivalent experience in criminology, security management, policing, community safety, risk management or related discipline.
- Significant experience of developing and delivering crime prevention or security strategies.
- Experience of analysing intelligence, incident data and performance information to identify trends and inform interventions.
- Experience of stakeholder management and across organisational boundaries with experience of producing reports and presenting recommendations to senior stakeholders
- Knowledge of Crime Prevention Through Environmental Design (CPTED) principles.
- Project management experience and ability to manage competing priorities.
- Has CTC vetting clearance or willing to be vetted to this level.
Welsh Language Skills
While not essential for this role, Welsh language skills would make a great addition to your application.
TfW support anyone who wants to learn Welsh or improve their skills. We offer online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Equal Opportunities
We're changing the way the transport industry looks. By celebrating and embracing differences, we're building a workforce that represents Wales. We need talented people from all backgrounds and cultures to bring their perspectives and experiences. Diverse teams make better decisions and drive innovation. Join us in transforming the way Wales travels."
Who we are
Transport for Wales is changing the way Wales travels, making sustainable transport the first choice. We're building a multimodal integrated transport network called the T Network, making it easier for people to travel by train, bus, walking, wheeling and cycling.
Next steps
See attached Job Description for further details and how to apply. If you want to find out more about what we're doing in Wales, see our Annual Report.
We're a Disability Confident Leader. Let us know about any reasonable adjustments you may need in the recruitment process and as part of the role if you are successful.
This advert will close at 23:59 on the day of the application closing date stated above. However, we reserve the right to close this vacancy early if we receive enough applications. We encourage you to submit your application as early as possible.
It is likely interviews will take place within 2-3 weeks of the closing date.
Y Swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor arbenigol, yn datblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn meithrin partneriaethau strategol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, ac yn defnyddio gwybodaeth a data ar berfformiad i ganfod bygythiadau newydd, lleihau risgiau, a gwella diogelwch cwsmeriaid, cydweithwyr ac asedau.
Cyfrifoldebau'r swydd
- Cynnal asesiadau atal troseddu cynhwysfawr ar draws TrC a'i is-gwmnïau drwy gynnal asesiadau gan ddefnyddio methodoleg diogel drwy ddylunio a chynhyrchu dogfennau i ddylanwadu ar safonau cyson a sicrhau bod risgiau i'r busnes yn cael eu cofnodi a'u rhannu.
- Mynd ati'n rhagweithiol i adolygu data ar ddigwyddiadau drwy ddadansoddi amrywiaeth o ffynonellau data gan gynnwys logiau rheoli, dangosfyrddau ac adroddiadau i ganfod tueddiadau a risgiau newydd i'r sefydliad a rhoi cynlluniau ar waith i liniaru digwyddiadau pellach.
- Gweithredu fel arbenigwr pwnc ar gyfer atal troseddu, ysgogi newid diwylliannol ac ymddygiadol ar draws timau rheng flaen a dylanwadu ar randdeiliaid mewnol ac allanol i wreiddio mesurau atal troseddu effeithiol sy'n lleihau digwyddiadau sy'n gysylltiedig â throseddu ac yn gwella diogelwch y rhwydwaith.
- Bod yn gyfrifol am gyfarfodydd rhanbarthol Teithio'n Saffach TrC drwy gydlynu pecynnau cyfarfodydd, a'u cadeirio, i sicrhau bod gan faterion a digwyddiadau sy'n effeithio ar ardaloedd lleol gynlluniau digonol ar waith i'w rheoli.
Am beth rydyn ni'n chwilio
- Cymhwyster lefel gradd neu brofiad cyfatebol mewn troseddeg, rheoli diogelwch, plismona, diogelwch cymunedol, rheoli risgiau neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
- Profiad helaeth o greu a chyflawni strategaethau atal troseddu neu ddiogelwch.
- Profiad o ddadansoddi gwybodaeth, data ar ddigwyddiadau a gwybodaeth am berfformiad i ganfod tueddiadau a siapio ymyriadau.
- Profiad o ddelio â rhanddeiliaid ac ar draws ffiniau sefydliadol, ynghyd â phrofiad o gynhyrchu adroddiadau a chyflwyno argymhellion i uwch randdeiliaid
- Gwybodaeth am egwyddorion Atal Troseddu drwy Ddyluniad Amgylcheddol (CPTED).
- Profiad o reoli prosiectau a'r gallu i ddelio â blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd.
- Wedi cael eich clirio drwy broses fetio'r Archwiliad Gwrthderfysgaeth neu'n fodlon cael eich fetio i'r lefel hon.
Sgiliau Cymraeg
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Y camau nesaf
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Mae'n debygol y cynhelir cyfweliadau o fewn 2-3 wythnos i'r dyddiad cau.