Safety Business Partner (Projects) | Partner Busnes Diogelwch (Prosiectau)
Transport for Wales
Please note this is a fixed term contract to 31/03/2028
The Role
To provide professional safety support and technical expertise to operational areas within a public transport environment, ensuring the effective implementation of the Safety Management System (SMS) and day-to-day management of safety risks. The Safety Business Partner will work closely with operational leaders to embed safe working practices, provide practical advice, and ensure compliance with relevant legislation, standards and company procedures. The role acts as the key interface between the central safety function and front-line operations, supporting the delivery of a proactive, risk-based safety culture
Role responsibilities
- Act as the primary safety contact for designated operational areas, providing advice, guidance and support.
- Develop deep knowledge and understanding of your business area's risk profile and operations.
- Support operational teams in identifying hazards, assessing risks and implementing effective control measures.
- Ensure compliance with safety legislation, standards and company procedures (e.g. HSWA, ROGS where applicable).
Who we're looking for
- Experience in a safety role within public transport or a comparable high-risk industry.
- Working knowledge of safety legislation and regulatory requirements (e.g. HASAWA, ROGS where relevant).
- Understanding of risk assessment processes and safety management systems.
- Experience supporting incident investigations and applying structured problem-solving techniques.
Welsh Language Skills
While not essential for this role, Welsh language skills would make a great addition to your application.
TfW support anyone who wants to learn Welsh or improve their skills. We offer online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Equal Opportunities
We're changing the way the transport industry looks. By celebrating and embracing differences, we're building a workforce that represents Wales. We need talented people from all backgrounds and cultures to bring their perspectives and experiences. Diverse teams make better decisions and drive innovation. Join us in transforming the way Wales travels."
Who we are
Transport for Wales is changing the way Wales travels, making sustainable transport the first choice. We're building a multimodal integrated transport network called the T Network, making it easier for people to travel by train, bus, walking, wheeling and cycling.
Next steps
See attached Job Description for further details and how to apply. If you want to find out more about what we're doing in Wales, see our Annual Report.
We're a Disability Confident Leader. Let us know about any reasonable adjustments you may need in the recruitment process and as part of the role if you are successful.
This advert will close at 23:59 on the day of the application closing date stated above. However, we reserve the right to close this vacancy early if we receive enough applications. We encourage you to submit your application as early as possible.
It is likely interviews will take place within 2-3 weeks of the closing date.
Sylwch: contract am gyfnod penodol i 31/03/2028
Y Swydd
Darparu cymorth diogelwch proffesiynol ac arbenigedd technegol i feysydd gweithredol mewn amgylchedd trafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau bod y System Rheoli Diogelwch (SMS) yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol a bod risgiau diogelwch yn cael eu rheoli o ddydd i ddydd. Bydd y Partner Busnes Diogelwch yn gweithio'n agos gydag arweinwyr gweithredol i wreiddio arferion gweithio diogel, darparu cyngor ymarferol, a sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth, safonau a gweithdrefnau perthnasol y cwmni. Mae'r rôl yn gweithredu fel y rhyngwyneb allweddol rhwng y swyddogaeth diogelwch ganolog a gweithrediadau rheng flaen, gan gefnogi'r gwaith o ddarparu diwylliant diogelwch rhagweithiol sy'n seiliedig ar risg
Cyfrifoldebau'r swydd
- Bod yn brif gyswllt diogelwch ar gyfer meysydd gweithredol dynodedig, gan ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth.
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o broffil risg a gweithrediadau eich maes busnes.
- Cefnogi timau gweithredol i nodi peryglon, asesu risgiau a rhoi mesurau rheoli effeithiol ar waith.
- Sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth diogelwch, safonau a gweithdrefnau'r cwmni (e.e. HSWA, ROGS lle bo hynny'n berthnasol).
Am beth rydyn ni'n chwilio
- Profiad mewn rôl ddiogelwch ym maes trafnidiaeth gyhoeddus neu ddiwydiant risg uchel tebyg.
- Gwybodaeth ymarferol am ddeddfwriaeth diogelwch a gofynion rheoleiddiol (e.e. HASAWA, ROGS lle bo hynny'n berthnasol).
- Dealltwriaeth o brosesau asesu risg a systemau rheoli diogelwch.
- Profiad o gefnogi ymchwiliadau i ddigwyddiadau a defnyddio technegau datrys problemau strwythuredig.
Sgiliau Cymraeg
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Y camau nesaf
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Mae'n debygol y cynhelir cyfweliadau o fewn 2-3 wythnos i'r dyddiad cau.