Cynorthwyydd Gweinyddol y Gyfadran

Gower College Swansea

Amdanom ni

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y Rôl

Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr i Swyddfa'r Gyfadran, wedi'i lleoli yng Ngorseinon, ac o bosibl i gefnogi gweinyddiaeth yn ein campws Llwyn Y Bryn un diwrnod yr wythnos. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau pobl rhagorol a bydd yn mwynhau gweithio gyda phobl ifanc.

  • Rhan-amser (20 awr yr wythnos)
  • Yn ystod y tymor (38 wythnos y flwyddyn)
  • 9am - 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • Cyfnod penodol tan 31/07/2027
  • £13.52 yr awr
  • Prif leoliad: Campws Gorseinon

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr i Swyddfa’r Gyfadran.
  • Atebolrwydd allweddol am archebu nwyddau traul, cynnal cofnodion manwl a gweinyddu ffurflenni cerdyn credyd
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, darlithwyr a myfyrwyr.

Amdanoch chi

  • Profiad o gynnal systemau gweinyddol manwl.
  • Sgiliau TG rhagorol.
  • O leiaf 5 cymhwyster TGAU Gradd A-C (neu gyfwerth) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Bydd gennych hefyd gymhwyster lefel 2 perthnasol, yn ddelfrydol mewn Gweinyddu Busnes.
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i gyfathrebu'n hyderus ar bob lefel.
  • Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith a chadw at derfynau amser ac ymrwymiad i gynnal safonau uchel.

Buddion

  • 28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025)
  • 2 ddiwrnod lles i staff
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.

Gwybodaeth Bellach

  • Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
  • Cyflog Amser Llawn: £26,084 - £26,226 y flwyddyn.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg

I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu

Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
  • Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).