Head of School of Engineering

Cardiff University

Job Advert

Head of School of Engineering

Cardiff University sits at the heart of Wales’ capital city, a lively and welcoming place where ideas, ambition and community come together. Home to over 30,000 students and 7,500 staff, Cardiff is one of the UK’s largest universities and the only Welsh member of the Russell Group. We are a vibrant community of students, staff, researchers and partners, driven by a shared commitment to make a real difference in the world.

Cardiff University is seeking a visionary leader to be our next Head of the School of Engineering. One of the largest Schools in the University, Engineering has a community of approximately 2,000 students and 100 academic staff. Reporting to the Pro Vice-Chancellor and Head of the College of Physical Sciences and Engineering, the Head of School will provide strategic leadership across education, research, knowledge exchange and innovation within the School, and will contribute to the leadership of the College of Physical Sciences and Engineering.

This is an exciting time to join the University as we implement our new strategy, ‘Our future, together’, and work to enhance our global recognition for pioneering research, innovation, teaching excellence and an outstanding student experience.

Applicants will have an outstanding academic track record and a strong record of leading large, complex academic groupings, with the ability to deliver change in an inclusive and ambitious way.

The successful applicant will be appointed to a substantive role within the School of Engineering in addition to the Head of School position. The Head of School position is full time for five years, with an extension of three years by mutual consent, after which the holder will transfer to their substantive role within the School. The position has a non-pensionable annual allowance.

How to apply

Please DO NOT apply via this system.

For further details, including the job description, person specification and information on how to apply, please email the search agency Exemplia on ***email_hidden***.

Closing date for applications: 31 July 2026

Hysbyseb Swydd

Pennaeth yr Ysgol Peirianneg

Mae Prifysgol Caerdydd yng nghanol prifddinas Cymru – lle bywiog a chroesawgar lle mae syniadau, uchelgais a chymuned yn dod at ei gilydd. Yn gartref i dros 30,000 o fyfyrwyr a 7,500 o staff, mae Caerdydd yn un o brifysgolion mwyaf y DU a'r unig brifysgol yng Nghymru sy’n rhan o Grŵp Russell. Rydym yn gymuned fywiog o fyfyrwyr, staff, ymchwilwyr a phartneriaid, wedi'n gyrru gan ymrwymiad cyffredin i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am arweinydd gweledigaethol i fod yn Bennaeth nesaf ar ein Ysgol Peirianneg. Dyma un o ysgolion mwyaf y Brifysgol, sydd ag oddeutu 2,000 o fyfyrwyr a 100 o staff academaidd. Yn atebol i'r Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, bydd Pennaeth yr Ysgol yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws addysg, ymchwil, cyfnewid gwybodaeth ac arloesi yn yr Ysgol, ac yn cyfrannu at arweinyddiaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r Brifysgol wrth i ni roi ein strategaeth newydd, 'Ein dyfodol, gyda'n gilydd' ar waith, a gweithio i wella ein cydnabyddiaeth fyd-eang am ymchwil arloesol, arloesi, rhagoriaeth addysgu a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr.

Bydd gan ymgeiswyr hanes academaidd rhagorol a phrofiad o arwain grwpiau academaidd mawr a chymhleth, gyda'r gallu i gyflawni newid mewn ffordd gynhwysol ac uchelgeisiol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi i rôl sylweddol yn yr Ysgol Peirianneg yn ogystal â swydd Pennaeth yr Ysgol. Swydd amser llawn am bum mlynedd yw hon, gydag estyniad o dair blynedd trwy ddod i gytundeb, ac ar ôl hynny bydd y deiliad yn trosglwyddo i'w rôl barhaol yn yr Ysgol. Mae gan y swydd lwfans blynyddol dibensiwn.

Sut i wneud cais

PEIDIWCH ag ymgeisio ar y system hon, os gwelwch yn dda.

Am fanylion pellach, gan gynnwys y disgrifiad swydd, manyleb yr unigolyn a gwybodaeth am sut i wneud cais, anfonwch e-bost at yr asiantaeth chwilio Exemplia ar ***email_hidden***.

Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2026