Ymgynghorydd Iechyd Myfyrwyr (Brysbennu)

Gower College Swansea

Ymgynghorydd Iechyd Myfyrwyr (Brysbennu)

Amdanom ni

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.

Y rôl

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Ymgynghorydd Iechyd Myfyrwyr (Brysbennu) proffesiynol a rhagweithiol i ddarparu gwasanaeth cynghori iechyd i fyfyrwyr a rhoi arweiniad a chyngor ar faterion iechyd penodol i staff perthnasol.

Bydd y rôl yn cynnwys hyrwyddo iechyd a lles ar draws y Coleg, cynnal asesiadau risg ar gyfer cyflyrau meddygol risg uchel, cefnogi rhaglenni hybu iechyd, a gweithio’n agos gyda staff y gyfadran, y tîm Profiad a Lles Dysgwyr a gwasanaethau cymorth perthnasol.

  • Rhan-amser (30 awr yr wythnos)
  • Cyfnod Penodol (1 flwyddyn)
  • £15.26 - £17.75 yr awr (Cyfatebol i Amser Llawn: £19.08 - £22.19)
  • Traws-gampws, Abertawe

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cynnal asesiadau risg ar unrhyw gyflwr meddygol sydd â risg uchel, gan roi cyngor ac arweiniad i staff ar sut i gefnogi dysgwyr yn ddiogel ac yn effeithiol.
  • Cefnogi a darparu rhaglen Hybu Iechyd fisol, wedi’i theilwra i fynd i’r afael â materion iechyd perthnasol megis iechyd rhywiol, ffyrdd iach o fyw, ysmygu, gorbryder, iselder, straen a lles meddyliol cyffredinol.
  • Gweithio’n agos â staff y gyfadran, Rheolwr Profiad a Lles Dysgwyr a’r Cydlynydd Cymorth i Ddysgwyr er mwyn asesu anghenion meddygol a chymorth myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu, iechyd corfforol a meddyliol.
  • Goruchwylio a chefnogi’r gwaith o frysbennu achosion sy’n dod drwy Feel Safe, a chefnogi datblygiad a gweithrediad y modiwl iechyd ar y system hon.

Amdanoch Chi

  • Nyrs / Therapydd Galwedigaethol cofrestredig neu weithiwr proffesiynol iechyd sydd ar y rhan berthnasol o’r gofrestr.
  • Profiad ôl-gofrestredig, gan gynnwys profiad o weithio mewn amgylchedd addysgol.
  • Profiad o weithio gyda phobl ifanc a darparu rhaglenni addysg iechyd.
  • Y gallu i gyfathrebu’n glir ac yn effeithiol ar bob lefel, ynghyd â’r gallu i ddefnyddio menter bersonol, trefnu a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol.

Buddion

28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).

Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025).

2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn

Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.

Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.

Gwybodaeth Bellach

Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.

Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg

I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu

Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)

Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).