Cogydd
Gower College Swansea
Amdanom ni
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl
Cynnig gwasanaeth arlwyo ar un o’n prif gampysau, gan sicrhau nifer fawr o fwyd o safon uchel ac o’r radd flaenaf. Byddwch yn gyfrifol am archebu bwyd, cynllunio bwydlenni, coginio, glanhau a defnyddio’r til.
- Llawn amser (37 awr yr wythnos)
- 52 wythnos y flwyddyn
- Parhaol
- £26,476 - £28,822 y flwyddyn
- Campws Tycoch, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
- Paratoi a choginio bwyd i safon uchel
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
- Darparu bwffe/lletygarwch pan archebir
- Cwblhau'r holl waith papur diogelwch bwyd perthnasol
- Adolygu bwydlenni a helpu i’w creu
- Sicrhau bod yr holl wybodaeth am alergenau yn cael ei ddarparu a sicrhau ei fod yn gywir
- Monitro’r broses o gynhyrchu bwyd, ansawdd bwyd, meintiau a rheoli dognau
- Darparu briff tîm bob dydd
- Cynnal amgylchedd cegin glân a diogel i sgôr
- Diogelwch Bwyd Lefel 5, gan sicrhau bod yr holl amserlenni glanhau yn cael eu cwblhau i safon uchel ac adrodd ar unrhyw broblemau yn brydlon
- Archebu a derbyn eitemau bwyd ac eitemau nad ydynt yn fwyd gan ein cyflenwyr
- Trin arian parod
- Dirprwyo yn absenoldeb y Rheolwr
Amdanoch chi
- NVQ Lefel 2 mewn Paratoi Bwyd neu gymhwyster cyfwerth
- Profiad blaenorol o goginio neu arlwyo mewn cegin
- Y gallu i weithio'n effeithlon ac o dan bwysau.
- Safonau hylendid bwyd gwych
Buddion
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Ymholiadau anffurfiol: [email protected]
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
- Cynhelir cyfweliadau ar 21 Gorffennaf 2026.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
- Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)