Darlithydd mewn Tirlunio (0.5)

Gower College Swansea

Amdanom ni

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm staff yr Hyb Gwyrdd yng Ngholeg Gwyr Abertawe. Mae gan lawer o'r dysgwyr anghenion dysgu ychwanegol ac mae rhai yn arddangos ymddygiad heriol.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cynllunio, paratoi ac addysgu sesiynau cyffrous a difyr o fewn maes pwnc tirlunio
  • Cyfrannu’n weithredol at y cwricwlwm 14-19
  • Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau dysgu yn cael eu cynllunio a’u bod yn hygyrch, er mwyn diwallu anghenion amrywiol pob dysgwr.

Swydd Wag 1

  • 18.5 awr yr wythnos
  • Parhaol
  • £13,193 - £25,965 y flwyddyn (£26,386 - £51,931 Cyflog Amser Llawn)
  • Campws Tycoch

Swydd Wag 2

  • Hyd at 18.5 awr yr wythnos
  • Cyfnod Penodol
  • £18.23 - £35.89 yr awr (£26,386 - £51,931 Cyflog Amser Llawn)
  • Campws Tycoch

Nodwch yn glir pa rôl sydd gennych ddiddordeb ynddi

Amdanoch chi

  • Cymhwyster proffesiynol neu radd dosbarth cyntaf mewn maes perthnasol
  • Meddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, gymhwyster addysgu cydnabyddedig
  • Brwdfrydedd ac angerdd am yr awyr agored / garddwriaeth ac ecoadeiladu
  • Sgiliau rheoli dysgwyr gwych ynghyd â dycnwch, ymrwymiad ac amynedd i ddelio ag amrywiaeth o ddysgwyr, llawer ohonynt yn ddysgwyr ADY sydd ag ymddygiad heriol

Buddion

  • 46 diwrnod (pro-rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28% ar gyfartaledd (2025)
  • 2 ddiwrnod lles i staff
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.

Gwybodaeth Bellach

  • Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
  • Cyflog Amser Llawn: £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg

I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu

Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
  • Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).