Administrative Assistant
Cardiff University
Job Advert
Administrative Assistant
Division of Population Medicine
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
An exciting opportunity has arisen for an Administrative Assistant to join the Division of Population Medicine within the School of Medicine at Cardiff University.
The role holder will work as part of a wider team to provide an administrative service to the Division, undertaking a range of administration tasks to support operational and customer service requirements. This will include providing guidance on administrative processes, processing orders and invoices for payments, updating financial spreadsheets to monitor payments and liaising with HR to provide them with absence information.
The successful applicant will have experience of working in an administrative role. They will demonstrate that they have organisational and communication skills. They will have experience of using their initiative, manage a varied workload, and respond to queries in line with established procedures and practices.
For informal enquiries, please contact Julie Airey, Operations Manager on ***email_hidden***
The post is based at the Heath Park site.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 40 days pro rata annual leave (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and
more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
This post is part time (7 hours per week), fixed term until 31st March 2028 and available immediately. This post requires the successful candidate to be on site, either one full day or two half days.
Salary: £25,249 - £26,093 per annum pro-rata for hours worked (Grade 3). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Closing date: Wednesday, 24 June 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Hysbyseb Swydd
Cynorthwyydd Gweinyddol
Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwyydd Gweinyddol ymuno ag Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Bydd deiliad y rôl yn gweithio’n rhan o dîm ehangach i ddarparu gwasanaeth gweinyddol i'r Is-adran, gan ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau gweinyddol i gefnogi gofynion gweithredol a gwasanaeth i gwsmeriaid. Bydd hyn yn cynnwys rhoi arweiniad ar brosesau gweinyddol, prosesu archebion ac anfonebau ar gyfer taliadau, diweddaru taenlenni ariannol i fonitro taliadau a chysylltu ag Adnoddau Dynol i roi gwybodaeth am absenoldebau.
Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn rôl weinyddol. Bydd yn dangos bod ganddo sgiliau trefnu a chyfathrebu. Bydd ganddo brofiad o ddefnyddio ei fenter ei hun, rheoli llwyth gwaith amrywiol, ac ymateb i ymholiadau yn unol â gweithdrefnau ac arferion sefydledig.
Am ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Julie Airey, Rheolwr Gweithrediadau ar [email protected].
Lleolir y swydd ar safle Parc y Mynydd Bychan.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys 40 diwrnod pro-rata o wyliau blynyddol, (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun seiclo i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a
mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, gyda nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Swydd ran-amser (7 awr yr wythnos), tymor penodol tan 31 Mawrth 2028 yw hon ac mae ar gael ar unwaith. Mae'r swydd hon yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar y safle naill ai un diwrnod llawn neu ddau hanner diwrnod.
Cyflog: £25,249 – £26,093 y flwyddyn, pro rata (Gradd 3). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Mwrcher, 24 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gynorthwyo a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.