Administrative Officer
Cardiff University
Job Advert
Administrative Officer
Division of Infection and Immunity
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
We are seeking an experienced Administrator to provide comprehensive professional administrative support to a new project called the ‘A randomised, double-blind, parallel group, placebo controlled, trial of bactek for the prevention of lower respiratory tract infections in preterm infants Follow Up Study’ within the Department of Child Health, based at the Heath Campus . The Administrator post would suit someone with significant experience of working in an administrative/office environment, proficient in the use of common office software (e.g. MS Office), with the ability to set up standard administrative systems and processes, be able to analyse procedures and advise on improvements, have the ability to explore customer’s needs and adapt the service accordingly, and the ability to solve problems and propose practical solutions. Experience of contacting research participants or patients would be desirable. Experience of working for the NHS, and/or in a clinical research environment would also be desirable as would knowledge of patient confidentiality.
Informal enquiries should be made to Professor Sarah Kotecha, Trial Manager ([email protected]).
This post is full time (35 hours a week), available from 1 July 2026, and is fixed term until December 2029.
Salary: £28,031 - £31,236 per annum (Grade 4). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 40 days annual leave (incl. bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It's an exciting and vibrant place to work with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
Closing date: Monday, 15 June 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Hysbyseb Swydd
Swyddog Gweinyddol
Yr Is-adran Heintiau ac Imiwnedd
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Rydym yn chwilio am Weinyddwr profiadol i ddarparu cymorth gweinyddol proffesiynol cynhwysfawr i brosiect newydd o'r enw 'Astudiaeth dilynol o dreial ar hap, dwbl-ddall, grŵp cyfochrog, a reolir gan blasebo, o bactek ar gyfer atal heintiau yn y llwybr anadlu isaf mewn babanod cynamserol' yn yr Adran Iechyd Plant, ar Gampws y Mynydd Bychan. Byddai swydd Gweinyddwr yn addas i rywun sydd â phrofiad sylweddol o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa, sy'n gallu defnyddio meddalwedd swyddfa gyffredin (e.e. MS Office), a sydd â’r gallu i sefydlu systemau a phrosesau gweinyddol safonol, dadansoddi gweithdrefnau a chynghori ar welliannau, pwyso a mesur anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny, datrys problemau a chynnig atebion ymarferol. Byddai profiad o gysylltu â chyfranogwyr ymchwil neu gleifion yn ddymunol. Byddai profiad o weithio i'r GIG, a/neu mewn amgylchedd ymchwil clinigol hefyd yn ddymunol yn ogystal â gwybodaeth am gyfrinachedd cleifion.
Dylid gwneud ymholiadau anffurfiol i'r Athro Sarah Kotecha, Rheolwr y Treial ([email protected]).
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, ac mae ar gael o 1 Gorffennaf am gyfnod penodol tan Rhagfyr 2026.
Cyflog: £28,031 – £31,236 y flwyddyn (Gradd 4). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys lwfans gwyliau blynyddol o 40 diwrnod (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad cau: Dydd Llun, 15 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gynorthwyo a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag y bo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.