Senior Project Manager (Infrastructure Projects) | Uwch Reolwr Prosiectau
Transport for Wales

Equal Opportunities
At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Who we are
At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing.
We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs.
Role responsibilities
The Senior Project Manager will lead the delivery of the Hydrogen Bus Depot – Pathfinder initiative, and the development of future depots across the region. Driving innovation, stakeholder engagement, and continuous improvement throughout the programme lifecycle and ensuring projects are completed on time, within budget, and to the highest safety and quality standards.
- Provide strategic oversight of project progress against key milestones and delivery dates by rigorously monitoring project trackers, proactively identifying and mitigating risks, coordinating cross-functional teams, and delivering timely updates to internal and external stakeholders to ensure all projects are delivered on schedule and fully meet their defined obligations.
- Provide robust leadership in risk management by proactively identifying, assessing, and mitigating financial, reputational, quality, environmental, and health and safety risks, escalating issues as appropriate to ensure projects are delivered on schedule and to the highest standards.
- Provide comprehensive oversight of expenditure and Anticipated Final Costs (AFC) against the NEC contract by closely monitoring spend profiles, implementing change control in accordance with GAPP, and managing compensation events to ensure projects are delivered within budget and achieve optimal value for money.
- Lead the procurement of goods and services by fostering supplier and delivery partnerships within the Welsh economy, actively engaging with SMEs and other local supply chain partners to maximise regional economic benefits.
Who we’re looking for
- Relevant degree in Engineering, Project Management, Construction or equivalent experience.
- Hold a project management qualification e.g APM or PRINCE2
- Hold or working towards Chartered Project Professional (ChPP) or equivalent project management accreditation to demonstrate the necessary technical knowledge, professional practice, and competence for the role.
- Experience of NEC Suite of contracts of the entire project lifecycles, demonstrating an understanding of collaborative project management, proactive risk mitigation, and the ability to deliver projects efficiently.
Welsh Language Skills
The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role.
Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Next steps
Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details.
Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful.
This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible.
Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications.
Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship.**
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Bydd yr Uwch Reolwr Prosiect yn arwain y gwaith o gyflawni’r fenter Depo Bysiau Hydrogen – Braenaru, a datblygu depos yn y dyfodol ar draws y rhanbarth. Sbarduno arloesedd, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gwelliant parhaus drwy gydol oes y rhaglen a sicrhau bod prosiectau’n cael eu cwblhau’n brydlon, o fewn y gyllideb, ac yn unol â’r safonau diogelwch ac ansawdd uchaf.
- Darparu goruchwyliaeth strategol o gynnydd prosiectau yn erbyn cerrig milltir allweddol a dyddiadau cyflawni drwy fonitro tracwyr prosiectau’n drylwyr, mynd ati’n rhagweithiol i nodi a lliniaru risgiau, cydlynu timau traws-swyddogaethol, a darparu diweddariadau amserol i randdeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau bod pob prosiect yn cael ei gyflawni ar amser ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau diffiniedig yn llawn.
- Darparu arweinyddiaeth gadarn ym maes rheoli risg drwy fynd ati’n rhagweithiol i nodi, asesu a lliniaru risgiau ariannol, enw da, ansawdd, amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gan uwchgyfeirio materion fel y bo’n briodol i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni yn unol â’r amserlen ac i’r safonau uchaf.
- Darparu goruchwyliaeth gynhwysfawr o wariant a’r Costau Terfynol a Ragwelir yn erbyn contract yr NEC drwy fonitro proffiliau gwariant yn ofalus, gweithredu rheolaeth newid yn unol â GAPP, a rheoli digwyddiadau iawndal i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni o fewn y gyllideb ac yn sicrhau’r gwerth gorau am arian.
- Arwain y gwaith o gaffael nwyddau a gwasanaethau drwy feithrin partneriaethau cyflenwi a darparu yn economi Cymru, gan ymgysylltu’n weithredol â busnesau bach a chanolig a phartneriaid eraill yn y gadwyn gyflenwi leol i sicrhau’r manteision economaidd rhanbarthol gorau posibl.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
- Gradd berthnasol mewn Peirianneg, Rheoli Prosiectau, Adeiladu neu brofiad cyfatebol.
- Cymhwyster rheoli prosiect e.e. APM neu PRINCE2
- Meddu ar achrediad Gweithiwr Prosiect Proffesiynol Siartredig (ChPP) neu achrediad rheoli prosiect cyfatebol, neu’n gweithio tuag at hynny, i ddangos yr wybodaeth dechnegol, yr ymarfer proffesiynol a’r cymhwysedd angenrheidiol ar gyfer y rôl.
- Profiad o gyfres o gontractau NEC o gylch oes prosiect cyfan, gan ddangos dealltwriaeth o reoli prosiectau ar y cyd, lliniaru risg yn rhagweithiol, a’r gallu i gyflawni prosiectau’n effeithlon.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
See more jobs in Pontypridd